Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cyflwyno bownsars traeth ar hyd yr arfordir yn dilyn sawl digwyddiad yn ymwneud â cherbydau dŵr.

Bydd swyddogion yn cael eu cyflogi i ofalu am lithrffyrdd er mwyn atal pobol rhag mynd â cherbydau i’r môr yn Freshwater East yn ystod oriau brig.

Fydd y llithrffordd ddim yn gallu cael ei defnyddio rhwng 10yb a 4yp er mwyn sicrhau diogelwch yr holl ymwelwyr.

Bydd y llithrffordd yn Freshwater East, sy’n eiddo Awdurdod y Parc Cenedlaethol, dan ofal cynrychiolydd o Diogel Security bob dydd o heddiw (dydd Sadwrn, Awst 22) hyd at Fedi 7.

Bydd y sefyllfa’n cael ei hadolygu ar ddiwedd y cyfnod hwn.

Bydd pobol sy’n lansio cychod a cherbydau eraill yn dal yn cael defnyddio’r llithrffordd a bydd y rhai sy’n cael eu troi ymaith yn cael gwybodaeth am yr ardal acwabatics ddynodedig ar Ddyfrffordd Aberdaugleddau, yn ogystal â Chôd Morol Sir Benfro.

Ymateb

“Rydyn ni’n cymryd y cam hwn er mwyn gwneud yn siŵr bod y rhai sy’n dymuno lansio’r cerbydau hyn yn defnyddio lleoliadau mwy addas, ac yn osgoi traethau fel Freshwater East, sy’n brysur iawn ar hyn o bryd,” meddai Tegryn Jones, prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn annog defnyddwyr cerbydau dŵr personol i ddefnyddio’r ardal ddynodedig ar Ddyfrffordd Aberdaugleddau ac yn dilyn y canllawiau sy’n helpu i sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosib ar fywyd gwyllt.

“Yn anffodus mae ymddygiad ychydig o unigolion wedi gorfodi’r Awdurdod i gymryd y cam hwn, ac rydyn ni’n annog pawb i ystyried effaith eu hymddygiad ar bobl eraill, o ystyried bod cynifer o bobl yn dod i Arfordir Penfro i fwynhau nodweddion arbennig yr ardal.

“Gofynnwn i chi droedio’n ysgafn a chofio parchu’r tir, y gymuned a phobl eraill pan fyddwch yn ymweld â’r Parc Cenedlaethol.”