Mae Boris Johnson, ei bartner Carrie Symonds a’u mab Wilfred wedi dod adref o’u gwyliau yn yr Alban yn gynnar ar ôl i luniau o’r bwthyn lle’r oedden nhw’n aros gael eu cyhoeddi.
Roedden nhw yng ngogledd-orllewin y wlad gyda’u ci Dilyn.
Ond bu’n rhaid iddyn nhw ddod adre’n gynnar am resymau diogelwch, yn ôl adroddiadau.
Cafodd lluniau eu cyhoeddi yn y Daily Mail ddoe (dydd Gwener, Awst 21) oedd yn dangos pabell ger bwthyn sy’n edrych dros ynysoedd Raasay, Rona a Skye.
Ond yn ôl Kenny Cameron, perchennog y tir, doedd prif weinidog Prydain ddim wedi ceisio caniatâd cyn codi ei babell ac fe ddywedodd ei fod e wedi dringo ffens gan ddefnyddio cadeiriau o’r bwthyn yn hytrach na’r gât.
Fe ddywedodd nad yw’n “gosod esiampl dda” gyda’i ymddygiad ac y gallai fod wedi achosi difrod i’r ffens, ac fe wnaeth ei feirniadu am gynnau tân yn ystod y tywydd sych.
Yn ôl y Ceidwadwyr, bai’r SNP oedd fod lleoliad y gwyliau wedi cael ei ddatgelu a hynny ar adeg pan fod Llywodraeth Prydain dan y lach am yr helynt canlyniadau arholiadau, ac mae Boris Johnson yn cael ei feirniadu am beidio â dychwelyd o’i wyliau er mwyn mynd i’r afael â’r mater.