Roedd mynd i ginio golff yn Galway “yn gamgymeriad enfawr” meddai Michéal Martin, Taoisech Iwerddon, am nifer o’i gyd-wleidyddion.

Roedd mwy nag 80 o bobol yn y digwyddiad yn Galway, yn groes i gyfyngiadau’r coronafeirws, ac mae Dara Calleary, Phil Hogan a Jerry Buttimer, Dirprwy Gadeirydd Senedd Iwerddon, ymhlith y rhai mwyaf blaenllaw yn y cinio.

Yn ôl Michéal Martin, mae’r Gweinidog Amaeth Dara Calleary wedi gwneud y peth cywir wrth ymddiswyddo, ac mae’n annog Phil Hogan, cynrychiolydd Iwerddon yng Nghomisiwn Ewrop, i ymddiheuro.

Ond dydy e ddim wedi gwneud sylw am Seamus Woulfe, barnwr yn yr Uchel Lys oedd hefyd yn y cinio.

Mae heddlu Iwerddon yn ymchwilio i gyfreithlondeb y cinio rhag ofn fod y trefnwyr wedi torri cyfyngiadau’r coronafeirws.

Mae’r Taoiseach yn cydnabod fod yr helynt wedi tanseilio negeseuon iechyd y llywodraeth.

“Roedd yn gamgymeriad enfawr ar ran pawb oedd wedi mynychu,” meddai wrth RTE.

“Dw i’n hynod siomedig ynghylch yr hyn ddigwyddodd.

“Mae’n peryglu ac o bosib yn tanseilio’r broses o gyfleu’r neges iechyd cyhoeddus bwysig.”