Mae Ysgrifennydd Amgylchedd yr Alban wedi cyhoeddi na fydd hi’n sefyll yn etholiadau Holyrood fis Mai nesaf.

Yn ôl Roseanna Cunningham, 69, roedd ei hoedran yn ystyriaeth fawr wrth wneud y “penderfyniad anodd”.

Does yna’r un gwleidydd etholedig arall wedi treulio mwy o amser yn Senedd yr Alban.

Dywedodd y bu’n “fraint enfawr” cael gwasanaethu yn Holyrood a San Steffan, ac yn enwedig fel rhan o Lywodraeth yr Alban.

Hi yw’r ddiweddaraf o blith nifer o wleidyddion blaenllaw’r blaid sydd wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n sefyll yn yr etholiad, yn dilyn Mike Russell, Gail Ross a Bruce Crawford.