Mae unigolyn wedi marw ar ôl i drên eu bwrw rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr fore heddiw (dydd Sadwrn, Awst 22).

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Pen-coed toc ar ôl 6yb.

Ond bu farw’r unigolyn yn y fan a’r lle.

Mae ymchwiliad ar y gweill, ond dydy’r digwyddiad ddim yn cael ei drin fel un amheus.