Mae enw’r ferch 15 oed fu farw yn afon Rhymni ger Llanrhymni wedi cael ei gyhoeddi.

Aeth Nicola Williams, merch leol, i drafferthion ger yr afon neithiwr (nos Wener, Awst 21) yn dilyn rhybudd melyn am wyntoedd cryfion o hyd at 50m.y.a. gan y Swyddfa Dywydd.

Cafodd yr heddlu eu galw am oddeutu 5.20yp, ac roedd hofrennydd yr heddlu yno i gynorthwyo’r gwasanaethau brys.

Cafwyd hyd iddi am oddeutu 6.40yh ac er iddyn nhw geisio ei hachub, bu farw’r ferch.

Mae ei ffrindiau wedi bod yn rhoi teyrngedau iddi ar y cyfryngau cymdeithasol, gydag un yn dweud ei bod hi’n “ferch neis, bob amser yn hapus, a phob amser yn gwneud unrhyw beth dros unrhyw un”.

Dydy’r heddlu ddim yn trin ei marwolaeth fel un amheus.