Fydd dim modd bwcio prawf gyrru ar-lein tan o leiaf ddydd Mercher (Awst 26) ar ôl i’r DVSA orfod dileu’r system ar-lein oherwydd bod y galw mor uchel.

Doedd y wefan ddim wedi gallu ymdopi â’r galw ddoe (dydd Gwener, Awst 21) ac fe aeth ei holl systemau i lawr.

Daeth profion gyrru i ben ym mis Mawrth oherwydd y coronafeirws, a dim ond gweithwyr allweddol sydd wedi gallu cael profion brys ers hynny er mwyn gallu mynd i’r gwaith.

Fe wnaeth bron i 7 miliwn o bobol wneud cais am brawf ar ôl i’r system fynd ar-lein eto.

Mae’r DVSA wedi ymddiheuro am y sefyllfa.