Mae dyn mewn cyflwr difrifol yn dilyn ymosodiad arno yn Llundain gan giang o chwech o ddynion oedd yn cludo cyllyll a batiau pêl fas.

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Walworth yn ne Llundain am 5.22 neithiwr (nos Wener, Awst 22).

Cafodd dyn 24 oed ei gludo i’r ysbyty, a’r gred yw iddo gael ei drywanu.

Does neb wedi cael ei arestio, ac mae Heddlu Llundain yn dal ar y safle wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.