Mae’r awdurdodau yn nhalaith Califfornia yn yr Unol Daleithiau’n ceisio rheoli rhai o’r tanau mwyaf erioed sydd ar led mewn gwres llethol.

Bu’n rhaid i filoedd o bobol adael eu cartrefi ddoe (dydd Gwener, Awst 21), gyda channoedd o gartrefi wedi’u dinistrio.

Mae mwy na 12,000 o ddiffoddwyr wedi bod yn ceisio diffodd y fflamau gyda chymorth hofrenyddion a thanceri awyr.

Mae mwy na 991 o filltiroedd sgwâr o dir wedi’u dinistrio, yn ogystal â mwy na 500 o adeiladau.

Mae o leiaf bump o bobol wedi marw, gyda thros 100,000 o bobol wedi’u gorfodi o’u cartrefi.

Dywed yr awdurdodau eu bod nhw’n ffyddiog o allu diffodd yr holl danau cyn iddyn nhw ledu ymhellach.

Mae Califfornia wedi profi tymheredd o fwy na 37 gradd selsiws, ac mae hynny wedi arwain at 560 o danau, gyda rhyw ddau ddwsin ohonyn nhw ar raddfa fawr yng ngogledd y dalaith yn dilyn stormydd yn gynharach yn yr wythnos.