Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, sydd wedi bod ar gau ers mis Mawrth oherwydd y coronaferiws, wedi gorfod gohirio cynlluniau i ailagor oherwydd “difrod sylweddol” i’r Ganolfan yn dilyn y glaw trwm yn Aberystwyth wythnos diwethaf.

Roedd disgwyl i’r Ganolfan ail agor ddechrau mis Medi.

Difrodwyd ardal y swyddfa docynnau, cyntedd y Neuadd Fawr, ac ardal y bar ar y llawr cyntaf gan y llifogydd.

Cafodd nifer o dai yn dref hefyd eu heffeithio gan y llifogydd.

Mae’r gwaith sydd ei angen i atgyweirio’r difrod i’r adeilad wedi cychwyn.

Eglurodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau bod staff wedi bod yn paratoi i ailagor y cyfleusterau mewn cyn i’r tymor newydd ddechrau ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Mae ein cynlluniau gwreiddiol ar gyfer ailagor fesul cam o ddechrau mis Medi wedi’u gohirio wrth i ni asesu’r difrod”, meddai wrth BroAber360.

“Gall difrod dŵr gymryd peth amser i’w unioni, oherwydd yr angen i sychu’r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt yn drylwyr cyn i’r gwaith adfer ddechrau.

“Rydym yn hynod falch yng Nghanolfan y Celfyddydau ein bod yn darparu canolbwynt pwysig i’r celfyddydau yng nghanolbarth Cymru, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu pawb yn ôl cyn gynted ag y gallwn.”

Mae’r gwaith sydd ei angen i atgyweirio’r difrod i’r adeilad wedi cychwyn.