Gydag ymwelwyr yn dal i heidio i Eryri, mae’r Parc Cenedlaethol wedi cyflwyno mesur newydd i gadw rheolaeth ar y sefyllfa.

O heddiw (Dydd Iau, Awst 20) ymlaen mi fydd yn rhaid archebu tocynnau o flaen llaw er mwyn parcio ym maes parcio Pen-y-pas ar benwythnosau a gwyliau banc.

Bydd hyn yn para am weddill yr haf, a bydd yn rhaid archebu’r tocynnau yma ar-lein ar wefan Parc Cenedlaethol Eryri. Wrth gyrraedd y maes parcio bydd yn rhaid dangos e-bost o gadarnhad.

Bydd y rheiny sydd heb rhagarchebu yn medru defnyddio’r gwasanaeth Parcio a Theithio yn Nant Peris a Llanberis ar gyfer mynediad i Ben-y-pas.

Ceir rhif y gwlith

Daw’r cyhoeddiad yn sgil wythnosau o helynt yn ardal Pen-y-pas.

Mae awdurdodau wedi gorfod delio â cheir yn parcio’n anghyfreithlon yno, ac mae Heddlu’r Gogledd wedi gorfod troi cerbydau i ffwrdd o’r ardal.

Mae rhai wedi awgrymu dylid cau holl lwybrau’r Wyddfa nes bydd cynllun newydd mewn lle i reoli llif traffig a phobol.