Bydd dyn yn cael ei ddedfrydu yn ddiweddarach am ei ran mewn ymosodiad brawychol ym Manceinon tair blynedd yn ôl.

Mae Hashem Abedi, 23, yn frawd iau i Salman Abedi a ffrwydrodd bom yn Arena Manceinon ar Fai 22, 2017 – cafodd 22 o bobol eu lladd a channoedd eu hanafu. Roedd Salman Abedi hefyd wedi marw yn yr ymosodiad.

Cafwyd Hashem Abedi yn euog gan rheithgor ym mis Mawrth o 22 llofruddiaeth, ymgais i lofruddio, a chynllwynio i achosi ffrwydrad sy’n debygol o beryglu bywydau.

Clywodd y llys, bryd hynny, bod Hashem Abedi wedi helpu ei frawd hŷn i gasglu deunyddiau ynghyd ar gyfer y bom.

Dechrau’r dedfrydu

Dechreuodd y broses o ddedfrydu Hashem Abedi ddydd Mercher, ac mi wrthododd ymddangos gerbron llys yr Old Bailey er iddo gael ei gludo yno o Garchar Belmarsh.

Wnaeth y barnwr gyfaddef ei fod methu gorfodi’r troseddwr i wneud hynny, a bu iddo gadarnhau na fyddai modd rhoi ‘dedfryd oes gyfan’ am fod y brawychwr dan 21 oed ar y pryd.

Er hynny, mi allai Hashem Abedi dderbyn cyfres o ddedfrydau oes a threulio o leia’ 30 mlynedd dan glo.