Bu’n rhaid i Heddlu Gogledd Cymru gynorthwyo staff Cyngor Gwynedd ddoe (Dydd Sul, Gorffennaf 19) ar ol i gannoedd o geir barcio yn anghyfreithlon ar ochr prif ffyrdd ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Yn dilyn llif o ymwelwyr dros y penwythnos, cafodd yr heddlu eu galw am fod dros 500 o geir wedi parcio yn anghyfreithlon ym Mhen y Pas yn Eryri.

Roedd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri eisoes wedi cyhoeddi cyfres o ganllawiau i ymwelwyr  oedd am heidio yno dros y penwythnos.

Yn ôl yr Awdurdod ddoe, roedd sawl maes parcio eisoes yn orlawn ac roedd y gweddill yn parhau i lenwi wrth i fwy o bobol fynd allan i’r awyr agored yn dilyn cyfnod y coronafeirws.

Mae’n debyg bod nifer o’r rhai oedd wedi parcio’n anghyfreithlon wedi cael dirwyon ac mae disgwyl i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gynnal trafodaethau brys am y mater heddiw (Dydd Llun, Gorffennaf 20).

Dywed yr Awdurdod bod maes parcio Pen y Pas ac Ogwen yn llawn eto bore ma (Dydd Llun).

Daw hyn wrth i barciau chwarae, canolfannau cymunedol a champfeydd awyr agored ailagor heddiw wedi cyfyngiadau’r coronafeirws. Mae’n rhan o gynllun Llywodraeth Cymru i lacio’r cyfyngiadau ar gyfer y diwydiant twristiaeth a lletygarwch.