Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cyhoeddi cyfres o ganllawiau i ymwelwyr sy’n heidio yno heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 19).

Yn ôl yr Awdurdod, mae sawl maes parcio eisoes yn orlawn ac mae’r gweddill yn parhau i lenwi wrth i fwy o bobol fynd allan i’r awyr agored yn dilyn cyfnod y coronafeirws.

Dyma gyngor yr Awdurdod ar gyfer ymwelwyr:

Byddwch yn ddiogel – Cadwch at ganllawiau ymbellhau cymdeithasol pob amser. Cadwch bellter diogel rhyngthoch chi/eich grŵp ac eraill. Byddwch yn ymwybodol o unrhyw fannau cyfyng a golchwch eich dwylo ar ôl cyffwrdd unrhyw arwynebion caled gan gynnwys peiriannau talu ac arddangos.

Troediwch yn ysgafn – Byddwch yn barod i newid eich cyrchfan. Paratowch fwy nag un opsiwn rhag ofn i chi gyrraedd ardal sy’n prysuro.

Byddwch yn garedig – Parciwch yn y mannau priodol. Peidiwch a pharcio ar ochr y ffordd neu ar draws unrhyw fynediad, gall achosi problemau i ffermwyr, cymunedau neu’r gwasanaethau brys.

‘Cywilyddus’

Mae rhai eisoes yn mynegi pryderon am y nifer o bobol sy’n mynd i Eryri, gan gynnwys un o wardeiniaid Pen-y-Pas, sydd wedi postio lluniau o gerbydau ar hyd y ffyrdd.

“Osgowch Ben-y-Pas heddiw ar bob cyfri,” meddai Alun Gethin Jones ar Facebook.

“Dyma’r sefyllfa y des i iddi yn y gwaith fore heddiw am 8 o’r gloch.

“Mae wedi gwaethygu erbyn hyn, mae’r ceir wedi’u parcio ar glirffordd gyhoeddus yr holl ffordd i lawr o PYP i Westy Pen y Gwryd.

“Mae’n mynd yn beryglus iawn gan na all ceir na seiclwyr basio’n ddiogel.

“Mae pellter cymdeithasol yn cael ei anwybyddu, sy’n gwneud y lle yma’n berygl iechyd mawr yn yr hinsawdd sydd ohoni.

“Mae hyn yn gywilyddus.

“Dw i wedi bod yn cadw at y rheolau a chadw pellter ers 4 mis, a’r cyfan oll allan drwy’r ffenest rwan. Diolch!!”

‘Parchwch gymunedau lleol’

Ddydd Gwener (Gorffennaf 17), roedd Heddlu’r Gogledd yn gofyn i bobol barchu’r gymuned leol wrth fynd allan.

“Parchwch gymunedau lleol gan ymddwyn yn gyfrifol os ydych chi allan y penwythnos hwn,” meddai neges ar wefannau cymdeithasol yr heddlu.

“Parciwch yn gyfrifol.

“Gwaredwch eich sbwriel mewn modd priodol / ewch â fo adref efo chi.

“Osgowch dorfeydd.

“Cadwch 2 fetr ar wahân.”