Mae’r Tywysog Charles wedi llongyfarch Prifysgol Abertawe ar ei chanmlwyddiant heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 19).

Daw’r cyfarchiad fideo ganrif union ar ôl i’w dad-cu, y Brenin Siôr V, osod carreg sylfaen y brifysgol, oedd yn cael ei hadnabod fel Coleg Prifysgol Abertawe bryd hynny.

“100 mlynedd yn ddiweddarach ac rydym wrth ein boddau y bydd ei hen ŵyr, Ei Uchelder Brenhinol, Tywysog Cymru, yn ymuno â ni ddydd Sul 19eg Gorffennaf am 11am ar gyfer ein dathliadau pen-blwydd,” meddai’r brifysgol ar y cyfryngau cymdeithasol.

Neges Charles

“Boneddigion a boneddigesau, union gan mlynedd yn ôl i heddiw, ar Orffennaf 19, 1920, fe wnaeth fy nhad-cu, Ei Fawrhydi y Brenin Siôr V, ymweld ag Abertawe i osod carreg sylfaen Coleg Prifysgol Abertawe ym Mharc Singleton,” meddai’r Tywysog Charles mewn neges fideo.

“Gan mlynedd yn ddiweddarach, rwyf wrth fy modd o gael bod gyda chi heddiw, er yn rhithiol, i nodi’r garreg filltir arbennig hon yn hanes cyfoethog y brifysgol.

“Mae Prifysgol Abertawe wedi datblygu’n gyflym dros ben dros y ganrif ddiwethaf, o ddechreuadau cyffredin gydag 89 o fyfyrwyr ac un adeilad parhaol, i brifysgol â dau gampws sydd heddiw’n addysgu dros 20,000 o fyfyrwyr o 139 o wledydd.

“Mae hi bellach yn sefydliad ymchwil o safon fyd-eang gyda staff, myfyrwyr a phartneriaethau ar draws y byd.

“Yn 1920, cafodd y brifysgol ei sefydlu ar sail gwerthoedd arloesi, diwydiant a mentergarwch gyda’r nod o gefnogi ei chymuned a datblygu arloeswyr mawr y dyfodol a’u sgiliau.

“Arwyddair y brifysgol yw Gwedd Crefft Heb Ei Dawn, sy’n nodi bod sgiliau technolegol yn wan heb ysbrydoliaeth.

“Yn sicr, roedd sgiliau ac ysbrydoliaeth, ill dau, i’w gweld yn glir pan ymwelais yn ystod haf 2016 i agor Campws y Bae’r brifysgol yn swyddogol.”

Cymorth ‘calonogol’ mewn ‘cyfnod ansicr’

Mae’n mynd yn ei flaen i ganmol cyfraniad “calonogol” y brifysgol i’r ymdrechion yn ystod “cyfnod ansicr” y coronafeirws.

“Mae’r ymrwymiadau hyn yn adlewyrchu gorchwyl y brifysgol i wasanaethu ei chymuned, addysgu ei phobol, mynd i’r afael â heriau byd-eang yr oes ac i roi cartref a chefnogaeth,” meddai wedyn.

“Dyma’r gwerthoedd y cafodd y brifysgol ei sefydlu ar eu sail yn 1920, ac rwyf wrth fy modd eu bod nhw’n dal wrth galon ei gorchwyl heddiw.”

Mae’n gorffen ei neges drwy estyn dymuniadau pen-blwydd yn Gymraeg.

“Dyma ddymuno pen-blwydd hapus iawn wrth bawb ym Mhrifysgol Abertawe wrth gyrraedd y cant.”

Digwyddiadau

Fe fydd cyfres o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal ar-lein heddiw.

Am 3 o’r gloch, bydd Sam Blaxland mewn sgwrs ag Owen Sheers wrth lansio’i gyfrol yn dathlu canmlwyddiant y brifysgol.

Am 7 o’r gloch heno, bydd Hillary Clinton yn traddodi’r ddarlith ddiweddaraf yn y gyfres o Ddarlithoedd Coffa James Callaghan.

Thema’r drafodaeth gyda’r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor y brifysgol, fydd gwydnwch, adferiad a rôl prifysgolion yn y byd ar ôl Covid.