Mae “amgylchfyd o atgasedd” sydd wedi’i greu gan Swyddfa Gartref San Steffan wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobol sy’n hunan-niweidio mewn canolfannau cadw ffoaduriaid, yn ôl beirniaid.
Yn ôl ystadegau’r Swyddfa Gartref, fe fu cynnydd dros gyfnod o bum mlynedd yn nifer yr achosion, o 313 yn 2015 i 474 y llynedd.
Cafodd y ffigurau eu cyhoeddi mewn ymateb i gwestiwn gan Syr Ed Davey, arweinydd dros dro’r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan.
Er y bu cwymp rhwng 2015 (313 o achosion) a 2016 (295 o achosion), cododd y ffigwr unwaith eto, i 403 yn 2017.
Roedd gostyngiad bach yn 2018 i 398, ond cynnydd sylweddol yn 2019 i 474.
Roedd 149 o achosion wedi’u cofnodi yn y tri mis hyd at Fawrth 31 eleni.
‘Gollwng atgasedd’
Mae Syr Ed Davey yn galw ar y Swyddfa Gartref i “ollwng yr atgasedd” tuag at ffoaduriaid, gan annog yr adran i gymryd camau ar unwaith i “ddod â dyngarwch i mewn i’r system fewnfudo”.
“Dyma effaith oeraidd ‘amgylchfyd o atgasedd’ y Ceidwadwyr,” meddai.
“Mae’n annynol sut mae’r llywodraeth hon yn trin pobol sy’n aml yn ffoi rhag cael eu herlid ac oddi wrth ryfel.
“Gyda rhai pobol yn cael eu cadw am fwy na dwy flynedd yn y canolfannau hyn, wedi’u torri i ffwrdd o’r byd tu allan ac yn ofni dychwelyd i wledydd atgas, does dim syndod fod hunan-niweidio mor gyffredin.
“Rhaid i’r Ysgrifennydd Cartref [Priti Patel] ollwng yr atgasedd, dangos tosturi mae mawr ei angen a chymryd camau ar unwaith i ddod ag elfen ddyngarol i’r system fewnfudo.”
Ymateb Llywodraeth Prydain
Wrth ymateb i gwestiwn yn gofyn am ystadegau ynghylch pobol sy’n hunan-niweidio, dywed Chris Philip, y gweinidog cyfiawnder, fod pob cam posib yn cael ei gymryd i atal achosion.
“Mae’r staff ym mhob canolfan gadw yn cael eu hyfforddi i adnabod y rhai sydd mewn perygl o hunan-niweidio fel bod modd gweithredu er mwyn lleihau’r risg,” meddai.
“Mae’r holl achosion o hunan-niweidio yn cael eu trin yn ddifrifol iawn, a phob cam yn cael ei gymryd i atal achosion o’r natur yma.”