Mae parc antur Thorpe Park yn Surrey ar agor i’r cyhoedd er gwaethaf achos o drywanu a cheisio llofruddio yno ddoe (dydd Sadwrn, Gorffennaf 18).

Yn ôl y parc, roedd y digwyddiad yn un unigol ac maen nhw’n “hyderus” fod ganddyn nhw’r holl fesurau diogelwch sydd eu hangen i gadw ymwelwyr yn ddiogel.

Cafodd ymwelwyr eu cloi yn y parc ar ôl i ddyn yn ei 20au gael ei anafu’n ddifrifol yn ei stumog yn dilyn ffrwgwd rhwng grwpiau o bobol ar bont ger yr allanfa.

Mae dau ddyn, sydd hefyd yn eu 20au, wedi’u harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ac maen nhw’n cael eu holi yn y ddalfa.

Mae timau diogelwch yn chwilio eiddo ymwelwyr wrth fynd i mewn i’r parc ac mae’r ymchwiliad i’r digwyddiad yn parhau.

Ond mae ymwelwyr yn dweud nad ydyn nhw’n cael eu chwilio’n drylwyr, ac nad ydyn nhw’n teimlo’n ddiogel yno.