Fe fydd baneri yn ninas Atlanta yn nhalaith Georgia yn cael eu gostwng er cof am John Lewis, ymgyrchydd hawliau sifil yn yr Unol Daleithiau, sydd wedi marw’n 80 oed.

Fe wnaeth e gynrychioli’r ddinas am 30 o flynyddoedd.

Arweiniodd ymosodiad arno yn Alabama yn 1965 at dwf yn y mudiad gwrth-wahaniaethu ar sail hil.

Dywed Keisha Lance Bottoms, Maer Atlanta, y byddai pobl yn alw yn galw arno “am gyngor, arweiniad a chymorth ynghylch trwbwl da”.

Mae Arthur Blank, perchennog tîm pêl-droed Americanaidd yr Atlanta Falcons, yn dweud bod y ddinas wedi colli dau arwr, yn dilyn marwolaeth y Parchedig CT Vivian yn 95 oed hefyd. Roedd hwnnw’n un o ymgynghorwyr Martin Luther King Jr.

Bu farw’r ddau o fewn oriau i’w gilydd.