Dylai Anne Sacoolas, gwraig diplomydd oedd wedi mynd adref i’r Unol Daleithiau ar ôl gwrthdrawiad a laddodd Harry Dunn, ddychwelyd i wledydd Prydain er mwyn gallu “gweithredu cyfiawnder”, yn ôl Dominic Raab.

Yn ôl Ysgrifennydd Tramor San Steffan, mae Llywodraeth Prydain “yn ochri gyda theulu” Harry Dunn.

“Mae yna ddiffyg cyfiawnder yma, mae yna gais estraddodi o hyd ac rydym wedi galw ar Anne Sacoolas i ddychwelyd ac ar ein partneriaid Americanaidd i hwyluso hynny, rydyn ni wedi gwneud hynny’n gyson drwyddi draw,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday ar Sky.

“Does dim mesurau y gallem eu cymryd mewn modd credadwy, realistig sydd rywsut yn mynd i orfodi’r Unol Daleithiau na chwaith Anne Sacoolas i gydymffurfio â hyn.

“Ond dw i eisiau bod yn realistig oherwydd dw i ddim eisiau codi disgwyliadau sy’n mynd i siomi, ond rydyn ni wedi codi hyn ar bob lefel.

“Dw i wedi ei godi, rydyn ni wedi ei godi yn Washington, mae’r prif weinidog wedi ei godi gyda’r Arlywydd Trump a byddwn yn parhau i egluro ein bod ni ar ochr y teulu yma, rydyn ni’n credu y dylai hi ddychwelyd, rhaid iddi ddychwelyd adref fel bod modd gweithredu cyfiawnder.”

Ymateb teulu Harry Dunn

Yn ôl llefarydd teulu Harry Dunn, maen nhw am weld “cynllun strwythuredig wedi’i amserlennu’n glir” er mwyn sicrhau bod Anne Sacoolas yn dychwelyd i wledydd Prydain.

“Dydy hi ddim bellach yn ddigon da… eu bod nhw’n ei godi o hyd,” meddai.

“Dydy hynny ddim yn golygu dim i’r teulu.

“Mae angen iddi ddychwelyd. Mae canlyniadau i weithredoedd.

“Mae hyn yn un o achosion gwaetha’r Unol Daleithiau o safbwynt camddefnyddio hawliau dynol o ran dinesydd Prydeinig, teulu Prydeinig.

“Ble mae’r berthynas arbennig?”

Mae Charlotte Charles, mam Harry Dunn, yn dweud bod y teulu wedi cael “blwyddyn fwy na phoenus”.
“Rydyn ni’n benderfynol iawn o hyd o gael y cyfiawnder hwnnw,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday.
“Mae’r penderfyniad hwnnw’n dal yn gryf dros ben ond rydym wedi blino ac mae angen i’r Deyrnas Unedig gydweithio’n galed iawn â Llywodraeth yr Unol Daleithiau nawr a dod â hyn i ben…
“Peidiwch â’n gadael ni a’n gorfodi ni i fynd i ail flwyddyn o frwydro.
“Mae hi mor bwysig teimlo cefnogaeth eich llywodraeth eich hun ac yn anffodus, dydyn ni jyst ddim wedi cael hynny ond dydy hi byth yn rhy hwyr. Felly jyst helpwch ni.”