Mae aelod seneddol Llafur dan y lach am alw cwmni pizza Domino’s yn “fusnes lleol”.
Roedd Henry Tufnell, Aelod Seneddol Llafur dros Ganol a De Sir Benfro, wedi bod ar ymweliad â changen leol y busnes Americanaidd yr wythnos ddiwethaf, meddai mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dywed iddo gael “ymweliad gwych” â’r lle.
“Diolch yn fawr i Bradley a Reese am dreulio amser yn fy nangos i o gwmpas a rhannu’r gwaith anhygoel maen nhw’n ei wneud.
“Mae’n ysbrydoliaeth gweld busnesau lleol yn ffynnu ac yn darparu gwasanaeth gwych i’n cymuned.”
‘Bisâr’
Yn ôl Kiera Marshall, ymgeisydd seneddol Plaid Cymru ar gyfer etholaeth Gorllewin Caerdydd yn yr etholiad cyffredinol eleni, roedd hwn yn “bostiad bisâr arall gan Lafur yng Nghymru”.
“Sut mae cwmni sydd â thros 20,000 o siopau mewn 90 o wledydd yn cyfrif fel ‘lleol’? Syfrdanol,” meddai.
“Ac ar gyflog aelod seneddol o £90,000 – yn cynrychioli ardal mae e ond yn ei hadnabod o fod â thŷ haf – yn esgus bod yn weithiwr ar isafswm cyflog?”
Pwy yw Henry Tufnell?
Mae Henry Tufnell yn hanu o deulu o dirfeddianwyr o Swydd Gaerloyw.
Daw ei fam, Rosina, o Bontypridd yn wreiddiol.
Cafodd y gwleidydd ei addysg yng Ngholeg Radley, ac yna ym Mhrifysgol Brown yn yr Unol Daleithiau a’r City Law School yn Llundain.
Bu’n fargyfreithiwr am gyfnod, a hynny yn dilyn cyfnodau’n gweithio i undebau llafur.
Cafodd ei ddewis i fod yn ymgeisydd seneddol yng Nghymru yn dilyn ymgais aflwyddiannus i sefyll yng Nghaer Colyn (Colchester) yn Essex.