Mae Sikhiaid yng nghanolbarth Lloegr wedi bod yn paratoi pecynnau bwyd a nwyddau hanfodol i’w hanfon i Bontypridd yn dilyn y llifogydd dros y penwythnos.

Yn ôl neges ar y cyfryngau cymdeithasol, fe welson nhw’r newyddion am y sefyllfa ym Mhontypridd ac roedden nhw eisiau helpu’r gymuned leol.

Mae Langar Aid yn brosiect sy’n cael ei redeg gan Khalsa Aid International, sydd â’r nod o helpu pobol ddigartref, y rhai bregus a rheiny yng ngwledydd Prydain sy’n wynebu tlodi.

Maen nhw hefyd yn helpu cymunedau’n fyd-eang sy’n dioddef yn sgil rhyfeloedd a thrychinebau naturiol.

Ond maen nhw’n dweud bod eu gwaith yn ehangach na hynny hefyd, gan gynnig cymorth a chefnogaeth heb ragfarn, ynghyd ag amgylchfyd diogel a chyfforddus i bawb.

Pontypridd

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywed Langar Aid fod tîm o bobol “ar eu ffordd i Bontypridd wrth ymateb i’r llifogydd diweddar gafodd eu hachosi gan Storm Bert”.

“Rydyn ni wedi cysylltu â chanolfan gymunedol leol, sydd wedi gwneud cais am 200 o fagiau brechdanau, cyflenwadau glanhau a byrbrydiau i gefnogi trigolion sydd wedi’u heffeithio gan lifogydd,” medden nhw.

Isod, mae un o’r gwirfoddolwyr, sy’n hanu o Gymru, yn egluro mwy:

Galw am daliadau brys i ddioddefwyr llifogydd

Mae Mick Antoniw hefyd yn galw am adolygu system rybuddion y Swyddfa Dywydd

Busnesau’n ymateb i’r difrod yn sgil llifogydd dros y penwythnos

Efan Owen

Roedd difrod sylweddol ym Mhontypridd, Sir Fynwy a Blaenau Gwent