Mae pwyllgor yn y Senedd wedi clywed y byddai dibynnu ar lysoedd barn er mwyn penderfynu a ddylai gwleidyddion anonest gael eu gwahardd o’r Senedd yn anghymesur ac, o bosib, yn beryglus.
Fe rybuddiodd Azzurra Moores, arweinydd polisi’r cwmni gwirio ffeithiau annibynnol Full Fact, am “sgorio pwyntiau” gwleidyddol wrth roi tystiolaeth gerbron ymchwiliad fore ddoe (dydd Llun, Tachwedd 25).
Mae Pwyllgor Safonau’r Senedd yn ystyried tri opsiwn: un ai gwneud twyllo’n dramgwydd troseddol, ei gwneud yn dramgwydd sifil, neu atgyfnerthu’r systemau a’r sancsiynau mewnol sy’n bodoli eisoes.
Roedd hi’n cydnabod yr angen am ddatgelu twyll ac anonestrwydd, ond rhybuddiodd hi y byddai cynnwys y llysoedd barn fel rhan o’r penderfyniadau’n gwneud mwy o niwed nag o fudd.
“Rydyn ni’n reit bryderus y byddai defnyddio’r system gyfiawnder er mwyn penderfynu os ydy datganiadau’n wir neu’n fanwl gywir yn anghymesur ac o bosib yn beryglus, yn rhannol am nad ydyn ni’n credu y bydd hynny’n gweithio’n iawn yn ymarferol,” meddai.
‘Ymyrraeth wleidyddol’
Dywedodd Tom Brake, cyfarwyddwr y felin drafod Unlock Democracy, fod ffydd mewn gwleidyddiaeth wedi bod yn dirywio ers blynyddoedd yn sgil tueddiadau gwleidyddion i or-addo a thangyflawni.
“Mae pryderon gennym ni am y syniad ‘ma y bydd twyllo’n dramgwydd sifil neu droseddol… yn enwedig o ran y cwynion rhwystredig y bydd rhaid dod i’r afael â nhw,” meddai’r cyn-Aelod Rhyddfrydol o’r Senedd.
Fe gyfeiriodd at berygl ailadrodd penawdau tebyg i’r rhai am “Elynion y Bobol” gafodd eu cynnwys yn y Daily Mail wedi i farnwyr ddyfarnu y byddai angen caniatâd San Steffan ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
“Mae ambell wleidydd fyddai’n ceisio manteisio ar hyn drwy gyfeirio at ymyrraeth wleidyddol gan farnwyr,” meddai wrth y pwyllgor.
Wrth ymateb i bryderon am wleidyddion yn craffu ar eu gwaith eu hunain, fe gefnogodd Tom Brake alwadau am aelodau lleyg ar y pwyllgor safonau fyddai’n medru ystyried cwynion yn erbyn aelodau’r Senedd.
‘Problem gynyddol’
Dywedodd Lee Waters o’r Blaid Lafur fod y system safonau bresennol wedi methu rhwystro dirywiad ymddiriedaeth y cyhoedd, gan gwestiynu ai diwygiadau bychain pellach oedd yr ymateb iawn.
Dadl Tom Brake oedd fod y system yn gweithio’n iawn mewn rhai ffyrdd, gan gyfeirio at Boris Johnson yn ymddiswyddo yn wyneb adroddiad ‘Partygate’ y Pwyllgor Breintiau.
Yn ogystal, fe soniodd cyn-ddirprwy arweinydd Tŷ’r Cyffredin am bamffledi’n honni bod “amseroedd oedi’n uwch nag erioed”, a bod y “Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael eu canlyniadau etholiadol gorau erioed”.
“Nid dim ond cwynion blinderus sy’n fy mhoeni i…; dwi hefyd yn poeni am gwynion fyddai’n ymddangos yn ‘ddilys’ am ddatganiadau mi ydw i’n hyderus bod pob un o’r gwleidyddion yn y cyfarfod yma wedi’u cyhoeddi mewn rhyw bamffled neu’i gilydd,” meddai.
Fe wnaeth Tom Brake fynegi pryderon hefyd am oblybiadau’r newid i freintiau seneddol San Steffan, sy’n amddiffyn Aelodau Seneddol rhag cael eu herlyn am yr hyn maen nhw’n ei ddweud gerbron y senedd.
Yn Senedd Cymru, mae’r fraint hon wedi’i chyfyngu i rwystro erlyniadau enllib a dirmyg yn unig.
‘Hunanheddlua’
Dywedodd Adam Price, cyn-arweinydd Plaid Cymru ac un o eiriolwyr yr ymdrechion dros gyflwyno deddfryd dramgwyddol, y dylai fod annibyniaeth seneddol yn ddibynnol ar atebolrwydd allanol ar adegau.
Cyfeiriodd at Ddeddf Hillsborough, fyddai’n sicrhau bod camarweiniad y cyhoedd gan weinidogion sifil yn dramgwydd statudol, gan ddadlau y dylai’r un egwyddor fod yn gymwys yn achos gwleidyddion.
Fe wrthododd Sam Fowles, Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Cyfansoddiadol a Democrataidd, feirniadaeth rhai tuag at fodel gafodd ei gyflwyno gan y grŵp i’r pwyllgor.
Fe rybuddiod Dr Fowles fod hunanheddlua seneddau wedi methu, wrth i ffydd gyhoeddus yng ngwleidyddiaeth ddirywio, gan ddisgrifio’r llysoedd fel dewis amgen annibynnol mae’r cyhoedd yn ymddiried ynddyn nhw.
Dywedodd y cyfreithiwr fod model y grŵp yn cynnwys amddiffynfeydd cryf, gan gynnwys sicrhau bod gwneud honiadau blinderus yn drosedd, hefyd, fel dull ataliol ac er mwyn cywiro’r cofnod.
‘Moment beryglus’
Fe gyfeiriodd Jennifer Nadel, cyd-gyfarwyddwr y grŵp trawsbleidiol Trugaredd yng Ngwleidyddiaeth, at eu deiseb, sydd bellach wedi’i llofnodi gan 200,000 o bobol, gan alw am ddeddf ar wleidyddion yn dweud celwyddau.
Rhybuddiodd hi fod y byd yn profi moment beryglus yn sgil twf arweinwyr poblyddol yn Ewrop ac ailethol Donald Trump, “sydd heb unrhyw edifeirwch ynghylch dweud celwyddau” yn America.
“Dw i’n credu mai amser byr iawn sydd gennym ni er mwyn amddiffyn ein democratiaeth rhag camwybodaeth pwrpasol gan arweinwyr gwleidyddol,” meddai Jennifer Nadel wrth y pwyllgor.
Ychwanegodd y cyn-gyfreithwraig fod gan wleidyddiaeth lefel is o ymddiriedaeth nag unrhyw broffesiwn arall, gyda 9% yn unig o’r cyhoedd yn datgan yn yr arolwg ‘mynegai cywirdeb’ diweddaraf eu bod yn credu’r hyn mae gwleidyddion yn ei ddweud.
“Mae’n rhaid i wleidyddion weithredu mewn ffordd weledol er mwyn dangos eu bod nhw’n cael trefn ar bethau, er mwyn dechrau adfer ymddiriedaeth,” meddai.