Fydd y cwmni o Tsieina sy’n gyfrifol am TikTok ddim yn agor pencadlys yng ngwledydd Prydain.
Roedd ByteDance wedi bod yn cynnal trafodaethau ag Adran Masnach Ryngwladol San Steffan am y cynllun a fyddai wedi creu 3,000 o swyddi.
Ond yn ôl y Sunday Times, mae’r cwmni wedi penderfynu dod â’r trafodaethau i ben yn sgil “cyd-destun geo-wleidyddol ehangach”.
Fe ddaw wrth i’r tensiynau rhwng llywodraethau Prydain a Tsieina barhau ar ôl i Lywodraeth Prydain feirniadu’r ddeddfwriaeth ddadleuol yn ymwneud â Hong Kong, yn ogstal â’r penderfyniad diweddar i wahardd cwmni Huawei rhag cael mynediad i’r rhwydwaith 5G.
Ond y gred yw y gellid ystyried y cynlluniau TikTok eto pe bai’r berthynas rhwng y ddwy lywodraeth yn gwella.
Datganiadau
“Rydym yn parhau i ymrwymo’n llawn i fuddsoddi yn Llundain ac i ysbrydoli creadigrwydd a dod â llawenydd i’n defnyddwyr o amgylch y byd,” meddai TikTok mewn datganiad.
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain, mae ByteDance wedi gwneud “penderfyniad masnachol”.
“Mae’r Deyrnas Unedig yn farchnad deg ac agored ar gyfer buddsoddiad lle mae’n cefnogi twf a swyddi’r Deyrnas Unedig,” meddai.