Byddai Llywodraeth Cymru mewn perygl o gefnu ar y Gymraeg a’r genhedlaeth nesaf pe na baen nhw’n rhoi cymorth ariannol i’r Urdd, yn ôl Plaid Cymru.

Yn ôl Siân Gwenllian, llefarydd diwylliant y blaid, mae peidio â chynnig cymorth yn tanseilio’r targed.

Daeth i’r amlwg yr wythnos ddiwethaf fod hyd at 80 o swyddi yn y fantol yn y mudiad.

Mewn llythyr i Weinidog Llywodraeth Cymru dros y Gymraeg, Eluned Morgan, rhybuddiodd Sian Gwenllian AS y “byddai peidio ag ymateb gyda buddsoddiad gwirioneddol yn y mudiad, er mwyn sicrhau ei dyfodol tymor hir, yn anghyson gyda tharged eich Llywodraeth o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

“Mae hon yn darged yr ydwyf i a fy mhlaid yn ei chefnogi, ond nid yw’n bosib i ni gefnogi safbwynt o wneud dim pan fo un o sefydliadau pwysicaf Cymru yn wynebu’r fath heriau,” meddai wedyn.

“A hithau’n agosau at ei phenblwydd yn gant oed, oni ddylid gwobrwyo’r Urdd gyda sefydlogrwydd tymor hir fel arwydd o ddiolch am ei chyfraniad at barhad yr iaith?”

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi manylion pellach ar wariant ar y celfyddydau a diwylliant yr wythnos nesaf a bydd Plaid Cymru yn parhau i bwyso am fuddsoddiad fydd yn cefnogi’r Gymraeg.