Mae Mark Drakeford yn dweud na fydd e’n cwblhau’r tymor seneddol nesaf pe bai’n cael parhau’n brif weinidog Cymru ar ôl etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf.

Dywed y prif weinidog 65 oed wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC ei fod e’n gobeithio arwain Llywodraeth Cymru “ymhell i mewn i dymor nesa’r Senedd”, ond mai adeg ei ben-blwydd yn 70 oed fyddai’r “amser i rywun arall gael cyfle i wneud y swydd hon”.

Bu’n brif weinidog ers olynu Carwyn Jones yn 2018, ac mae’n dweud mai ei fwriad erioed oedd camu o’r neilltu yn 70 oed.

Brexit a’r coronafeirws

Mae’n ymddangos, felly, nad yw Brexit nac ymlediad y coronafeirws wedi ei arwain i newid ei feddwl am ei ddyfodol wrth y llyw.

Bydd e’n dweud, “Dydy fy nghynlluniau ddim wedi newid er pan ddywedais i hynny’n wreiddiol.

“Fy nghynllun, os galla i ei wneud e, yw y bydda i’n arwain y Blaid Lafur yng Nghymru yn yr etholiad fis Mai y flwyddyn nesaf.

“Os ydyn ni’n llwyddiannus, bydda i’n ffurfio llywodraeth, bydda i’n gwasanaethu’n bennaeth ar y llywodraeth honno ymhell i mewn i’r tymor Seneddol nesaf ac yna, fy nghynllun yw ei throsglwyddo i rywun arall cyn etholiad.

“Bydd hi’n bryd i rywun arall wneud y swydd anodd hon.

“Yn ogystal, mae’n fraint fod wedi cael y cyfle i lenwi’r swydd hon.”

‘Y patrwm arferol’

Mae Mark Drakeford yn wfftio’r awgrym y gallai ei ymadawiad fod yn broblematig i etholwyr cyn yr etholiad y flwyddyn nesaf.

“Wel, dyna fydden nhw wedi ei wneud gyda Rhodri Morgan, oedd wedi sefyll yn 2007 ac wedi trosglwyddo i Carwyn yn ystod y tymor hwnnw,” bydd e’n ei ddweud.

“Dyna fydden nhw wedi ei wneud yn 2016 gyda Carwyn, oedd wedi ein harwain ni yn yr etholiad hwnnw a’i throsglwyddo i fi wedyn.

“Felly dyna batrwm arferol pethau yma yng Nghymru.”