Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau nad oes dim achosion newydd o’r coronafeirws wedi eu cofnodi mewn cysylltiad â’r haint diweddar mewn lladd-dy yn Llangefni.
Mae cyfanswm yr achosion yng ngwaith 2 Sisters yn y dref wedi aros yr un fath ers i dros 200 o achosion gael eu darganfod yno bythefnos yn ôl.
Dywed Dr Chris Williams, Cyfarwyddwr Ymateb i Covid-19 Iechyd Cyhoeddus Cymru, fod absenoldeb achosion newydd yn “arwydd positif ac yn dynodi bod y mesurau rheoli wedi bod yn effeithiol”.
Cafodd cyfanswm o 10 achos newydd o’r coronafeirws ledled Cymru eu cadarnhau heddiw, ond dim un farwolaeth, a hynny am y trydydd tro yr wythnos yma.
Does yr un farwolaeth newydd wedi ei chofnodi yn yr Alban chwaith, er bod y 21 o achosion newydd o’r haint yno y nifer uchaf ers mis. Fe fu farw 13 o gleifion mewn ysbytai yn Lloegr dros y 24 awr diwethaf.