Mae plismones a wnaeth ddatganiad anonest am ddigwyddiad lle dioddefodd dynes anaf i’w phen wedi cael ei diswyddo gan Heddlu De Cymru.
Yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC), penderfynodd panel disgyblu’r heddlu fod achos o gamymddwyn difrifol wedi’i brofi yn erbyn Pc Sally Thomas. Roedd y panel wedi ystyried honiadau ei bod wedi torri safonau proffesiynol dyletswyddau a chyfrifoldebau o ran gonestrwydd ac unplygrwydd.
Roedd yr achos wedi cael ei gyfeirio at yr IOPC gan Heddlu De Cymru ar ôl i ddynes gwyno am gael ei harestio a’i chadw ym Maesteg ym mis Mawrth 2018.
Pan gafodd Pc Sally Thomas ei holi gan ymchwilwyr, fe wnaeth ddatganiadau anonest am yr hyn a oedd wedi’i weld, a heb ei weld, wrth i’r ddynes gael ei hebrwng i fan yr heddlu pan gafodd ei harestio. Roedd ei chamera fideo a thystiolaeth arall yn gwrth-ddweud ei datganiadau.
Cytunodd Heddlu De Cymru fod gan Pc Thomas achos i’w ateb am beidio â dweud wrth y rhingyll a oedd ar ddyletswydd fod y ddynes wedi dioddef anaf i’w phen a bod grym wedi cael ei ddefnyddio wrth ei harestio. Penderfynodd y panel fod hynny, ynghyd â gwneud datganiadau a oedd yn anghyson â’r dystiolaeth a oedd ar gael, yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cymru yr IOPC, Catrin Evans: “Mae’n hanfodol i hyder y cyhoedd fod plismyn yn dweud y gwir am eu rhan mewn digwyddiadau andwyol. Yn yr achos hwn, wnaeth Pc Thomas ddim dangos y safonau uchel o ymddygiad proffesiynol sy’n ddisgwyliedig gan blismyn wrth ddweud anwireddau yn ei chyfweliad gyda’n ymchwilwyr.”