Roedd coronafeirws yn ffactor mewn cyfran sylweddol is o farwolaethau yng Nghymru ym misoedd Mawrth, Ebrill a Mai nag yn y Deyrnas Unedig ar gyfartaledd.

Yn y misoedd hyn, roedd Covid-19 yn ffactor yn 24.1% o’r holl farwolaethau yng Nghymru, o gymharu â chyfradd gyfatebol o 42% yn Lloegr.

Fe ddaeth hyn i’r amlwg mewn adroddiad newydd gan Lywodraeth Cymru sy’n adolygu data marwolaethau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Llywodraeth Cymru a ffynonellau eraill rhwng 1 Mawrth a 31 Mai.

Roedd cyfraddau marwolaethau cysylltiedig â’r coronafeirws yng Nghymru ar eu huchaf yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro. Fel yng ngweddill Prydain, roedden nhw’n uwch hefyd ymysg pobl hŷn, pobl o gymunedau BAME, cymunedau difreintiedig ac yn uwch mewn dynion na merched ym mhob grŵp.

Yn ôl yr adroddiad, roedd y pandemig wedi teithio tua’r gorllewin a thua’r gogledd ar draws Cymru o Loegr, a gallai’r amser ychwanegol i baratoi a gosod cyfyngiadau fod yn un rheswm dros y gyfran is o farwolaethau.

Mae’r adroddiad yn galw am ganolbwyntio parhaus ar adnabod a diogelu’r bobl fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas, ac yn tanlinellu’r rhan allweddol y bydd y rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu ei chwarae.

Wrth gyflwyno’r adroddiad, meddai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:

“Dyma’r adroddiad cyntaf o’i fath yma yng Nghymru a fydd yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o ba ffactorau, gan gynnwys ethnigrwydd, oedran a rhyw, sy’n cynyddu risg pobl yn sgil y feirws ofnadwy hwn.

“Yr adolygiad hwn yw’r cam cyntaf i ddysgu pam y cafodd rhai ardaloedd y Deyrnas Unedig eu taro’n waeth nag eraill. Bydd yr adroddiad hwn a dadansoddiadau eraill yn hanfodol ar gyfer cynllunio i’r dyfodol a byddant yn ein helpu i ddysgu mwy am coronafeirws fel y gallwn achub bywydau os bydd tonnau pellach.”