Mae pump o bobl wedi cael eu harestio ar ôl helynt yn Aberystwyth neithiwr.
Cafodd yr heddlu eu galw i Rodfa’r Gogledd yn y dref am 6.40pm, yn dilyn adroddiadau am anhrefn a dau o bobl â chyllyll yn eu meddiant.
Cafodd dau o bobl – 19 a 23 oed – eu harestio ar unwaith ar amheuon o affrae a’u cadw yn y ddalfa. Cafodd tri arall – dau ddyn a dynes – eu harestio yn Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin ychydig yn ddiweddarach.
Meddai’r Prif Arolygydd Christina Fraser o Heddlu Dyfed-Powys:
“Fe gawson ni nifer uchel o alwadau gan bobl a oedd yn bryderus am y digwyddiad, ac fe wnaethon ni ymateb ar unwaith gyda sawl uned o blismyn yn mynd yno.
“Mae gennym bellach bump o bobl yn y ddalfa, a dydyn ni ddim yn chwilio am neb arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
“Efallai y bydd pobl yn ardal Rhodfa’r Gogledd o Aberystwyth yn gweld nifer uchel o blismyn wrth i ymholiadau barhau.”