Mae amheuon y gallai tân yn eglwys gadeiriol Nantes yn Llydaw fod wedi cael ei gychwyn yn fwriadol.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw’n gynharach y bore yma wrth i fwg du godi o dyrau cadeirlan gothig Pedr a Paul a ffenestri lliw yn malu.
Mae’r eglwys o’r 15fed ganrif yn un o adeiladau harddaf a mwyaf trawiadol y ddinas hanesyddol ar lannau afon Loire.
Parhau mae’r ymchwilio i achos y tân sydd bellach o dan reolaeth.