Mae teyrngedau wedi cael eu talu yn America i John Lewis, aelod o’r Gyngres ac ymgyrchydd blaenllaw dros hawliau sifil yn yr 1960au, a fu farw ddoe.

Cafodd ei ddisgrifio gan Lefarydd Tŷ’r Cynrychiolwyr, Nancy Pelosi, fel “un o arwyr mwyaf hanes America”.

Ef oedd yr ieuengaf a’r olaf a oedd ar ôl o’r chwech o ffigurau mwyaf dylanwadol y mudiad hawliau sifil, o dan arweiniad Martin Luther King.

Daeth yn adnabyddus yn 1965, pan oedd yn 25 oed, pan arweiniodd orymdaith o 600 o brotestwyr dros bont Edmund Pettus yn Selma, Alabama, a chael ei churo’n ddidrugaredd gan ‘state troopers’ y dalaith.

Cafodd y lluniau o greulondeb yr heddlu eu darlledu ledled America gan dynnu sylw’r wlad at y gormes hiliol yn nhaleithiau’r de. Fisoedd yn ddiweddarach, roedd yr Arlywydd Lyndon Johnson yn arwyddo’r Ddeddf Hawliau Pleidleisio gyda Martin Luther King wrth ei ochr.

Trodd John Lewis at wleidyddiaeth yn ddiweddarach, gan ennill sedd yn Nhŷ’r Cynrychiolwyr dros y Democratiaid yn 1986, a dod yn brif ddirprwy chwip ei blaid yn 2006.

Un o’i areithiau olaf yn y Tŷ oedd ar ddiwrnod y bleidlais ar uchel-gyhuddo Donald Trump.

“Pan ydych chi’n gweld rhywbeth nad yw’n iawn, yn gyfiawn, na’n deg, mae gennych ddyletswydd moesol i ddweud rhywbeth, gwneud rhywbeth,” meddai.

“Mae gennym genhadaeth a mandad i fod ar ochr iawn hanes.”