Mae Nicola Sturgeon wedi cydnabod difrifoldeb yr anghydfod sydd rhyngddi ac Alex Salmond, ei rhagflaenydd fel Prif Weinidog yr Alban.
Mae Alex Salmond yn dwyn achos yn erbyn Llywodraeth yr Alban ynghylch y ffordd y gwnaeth ymdrin â’r honiadau o droseddau rhywiol yn ei erbyn ar ôl i Uchel Lys yr Alban ei gael yn ddieuog o’r holl gyhuddiadau yn gynharach eleni.
Fe fydd ef, a Nicola Sturgeon, yn rhoi tystiolaeth yn fuan i bwyllgor yn Senedd yr Alban a gafodd ei sefydlu i archwilio sut yr aeth Llywodraeth yr Alban i ymchwilio i’r honiadau cychwynnol o aflonyddu.
Mewn cyfweliad â Times Radio, dywedodd Nicola Sturgeon y bydd yn rhywfaint o “ryddhad” iddi gael trafod ar goedd y chwalfa yn ei pherthynas gydag Alex Salmond.
“Mae wedi bod yn anodd yn bersonol imi,” meddai.
“Mae teimlad o rywbeth sydd heb fod ymhell o broses o alaru, ond mae pawb ohonom yn mynd trwy bethau anodd a rhaid inni ddygymod â nhw.
“Dw i ddim wedi gallu siarad am y peth oherwydd yr achos troseddol, a phan ddaeth y treial i ben, mae Covid yn dal i gymryd fy holl sylw.
“Fe fyddaf yn cael cyfle i siarad am y mater yn yr ymchwiliadau seneddol sydd i ddo.
“Er na fyddwn i’n dweud fy mod i’n edrych ymlaen o gwbl at hynny, fe fydd teimlad o ryddhad i ryw raddau wrth allu dweud fy ochr i o’r stori ac wedyn gadael i bobl benderfynu drostyn nhw eu hunain.”
Mae Alex Salmond yn dal i fod yn ffigur poblogaidd a dylanwadol yn y mudiad cenedlaethol yn yr Alban, gyda llawer o’i gefnogwyr yn teimlo ei fod wedi cael cam.