Mae’r heddlu’n dal i apelio am dystion i wrthdrawiad angheuol ar ffordd yr A487 rhwng Porthmadog a Chaernarfon bnawn dydd Mercher.

Cafodd y ddwy ddynes o ardal Porthmadog a gafodd eu lladd eu henwi fel Anwen Mitchelmore, 59 oed, a’i mam Nancy Roberts, 84 oed.

Meddai’r Rhingyll Emlyn Hughes o Uned Plismona Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru:

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cysylltu â ni hyd yma gyda ffilmiau camerâu cerbyd.

“Rydan ni’n dal i apelio ar unrhyw un arall a oedd efallai’n teithio yn yr ardal adeg y digwyddiad am 3.30 bnawn Mercher i gysylltu â ni cyn gynted â phosib gan ddyfynnu rhif digwyddiad Y100773.

“Mae ein cydymdeimlad didwyll yn parhau gyda theuluoedd y ddwy a laddwyd mor drasig, ac maen nhw’n awr yn cael eu cefnogi gan Swyddogion Cyswllt Teuluoedd sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig.”