Mae plismon yn Llundain wedi cael ei wahardd o’i waith a dyletswyddau plismon arall wedi eu cyfyngu ar ôl i fideo ddangos un ohonyn nhw’n penlinio ar wddw dyn.

Cafodd plismyn eu galw i helynt yn Islington, yng ngogledd Llundain, nos Iau am 6.30, ac mae ffilm ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos dau blismon yn dal dyn du sydd mewn cyffion, ar y palmant.

Ar gychwyn y clip fideo, mae un o’r plismyn fel pe bai’n penlinio ar wddw’r dyn sydd o dan amheuaeth, a’i law am ei ben.

Dywedodd Heddlu Llundain eu bod wedi cynnal asesiad o’r digwyddiad a’u bod wedi’i gyfeirio at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).