Mae Cadw wedi cyhoeddi y bydd ailagor safleoedd sydd o dan ei ofal yn raddol, gan gynnwys rhai o safleoedd hanesyddol pwysicaf Cymru.
Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad diweddar y Prif Weinidog y gall atyniadau dan do ar gyfer ymwelwyr yng Nghymru ailagor dan ganllawiau a rheoliadau cadw pellter cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Dywed Cadw ei fod yn bwriadu ailagor 18 o’i safleoedd treftadaeth sydd wedi’u staffio, gan ddechrau gyda Gwaith Haearn Blaenafon, Tŷ Elisabethaidd Plas Mawr yng Nghonwy, a chestyll Dinbych, Talacharn, Rhaglan, Harlech a Chaerffili, fydd yn agor yn ystod wythnos gyntaf Awst.
Nesaf, bydd Castell Cas-gwent yn ne Cymru, yn ogystal â Safleoedd Treftadaeth y Byd cestyll Conwy a Biwmares yn ailagor yn ystod mis Awst, ac Abaty Tyndyrn a Chastell Caernarfon hefyd yr un modd
Mae Cadw’n gobeithio y bydd modd ailagor Llys yr Esgob Tyddewi, Baddonau Rhufeinig Caerllion, Castell Coch, Castell Cricieth a Llys a Chastell Tretŵr yn ailagor eu drysau ym mis Medi.
Bydd yn rhaid cadw pellter 2 fetr ar lwybrau cerdded, a bydd systemau un ffordd yn cael eu cyflwyno ar rai o’r safleoedd.
Hefyd, bydd mesurau hylendid newydd yn cynnwys glanhau mwy ar bob safle sydd wedi’i staffio.
“Wrth inni fynd ati’n raddol i gychwyn ailagor safleoedd wedi’u staffio o ddechrau mis Awst, ein prif flaenoriaeth yw diogelwch ein gweithwyr, ein haelodau, ein hymwelwyr a chymunedau ehangach Cymru – ac rydym yn falch o gael croesawu pob un o’r rhain yn ôl,” meddai’r Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.
“Dyna pam mae ein system docynnau newydd a’r cyfyngiadau ar nifer ein hymwelwyr – ynghyd â’r mesurau hylendid newydd ac, mewn rhai amgylchiadau, y gwaith addasu a wnaed ar safleoedd – yn hanfodol o ran sicrhau profiad diogel, lle gellir cadw pellter cymdeithasol, i bob un ohonom.
“Deallwn y bydd yna beth rhwystredigaeth ynglŷn â’r ffaith fod rhai henebion arbennig yn dal i fod ar gau, ond gallwch fod yn dawel eich meddwl ein bod yn gweithio mor galed ag y gallwn i’w paratoi ar gyfer ailagor – a byddwn yn gwneud hynny pan allwn fod yn hyderus eu bod yn fannau diogel y gall pawb eu mwynhau.”