Yn Llys y Goron Merthyr Tudful, cafodd  Andrew Davies, 52, o Aberaman,  ei ddedfrydu i naw blynedd o garchar am ddynladdiad Luke Williams.

Bu farw Luke Williams yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ar Ragfyr 19, 2019, yn dilyn digwyddiad ar Ragfyr 16 yn Aberaman.

Plediodd Andrew Davies yn euog i ddynladdiad ar Orffennaf 6 2020.

“Mae dedfryd heddiw yn dod ac ymchwiliad cymhleth ag anodd i ben,” meddai Ditectif Arolygydd David Butt.

“Roedd hwn yn ddigwyddiad arswydus, ddigwyddodd o flaen y cyhoedd, gan adael pobol leol wedi dychryn.

“Ond mae gwybodaeth gan y gymuned leol wedi bod yn allweddol i’r erlyniad hwn, a hoffwn ddiolch i bawb wnaeth gefnogi’r ymchwiliad.

“Rwyf yn gobeithio y bydd y ddedfryd yn gysur i deulu Luke ac rwy’n gobeithio y gallan nhw ddechrau ail-adeiladu eu bywydau.”