Mae Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Matt Hancock wedi galw am ymchwiliad i sut mae’r sefydliad Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn cyfrif marwolaethau coronafeirws dyddiol.
Daw hyn ar ôl i ymchwilwyr feirniadu “gwallau ystadegol” yn y ffordd mae marwolaethau’n cael eu cyfrif yn Lloegr.
Mae’r arbeigwyr wedi bod yn cymharu hyn â sut y caiff data cyfatebol ei gyfrif gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Gwarchod Iechyd yr Alban ac Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Gogledd Iwerddon mewn.
Mewn blog â’r teitl “Pam na all unrhyw un wella o Covid-19 yn Lloegr – anghysondeb ystadegol”, mae’r Athro Yoon Loke a’r Athro Carl Henegham yn dweud bod angen data mwy cadarn.
Maen nhw’n dadlau bod y ffordd mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn casglu data yn edrych ar os yw person erioed wedi profi’n bositif am y coronafeirws ac os ydyn nhw’n dal yn fyw bellach.
Golygai hyn bod unrhyw un sydd wedi profi’n bositif am y coronafeirws ac yna wedi marw yn cael eu cynnwys yn y ffigyrau marwolaethau, hyd yn oed os ydyn nhw wedi marw o achos arall gan gynnwys damweiniau neu drawiad ar y galon.
“Yn ôl diffiniad Iechyd Cyhoeddus Lloegr, does neb sydd â’r coronaferiws yn Lloegr yn cael gwella o’r afiechyd,” meddai’r blog.
Dyna pam mae ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn “sylweddol o ddydd i ddydd,” meddai’r blog.
Y ffaith bod Matt Hancock yn lansio ymchwiliad yn “od”
Mae’r ffaith bod Matt Hancock wedi penderfynu cynnal ymchwiliad nawr yn “od” yn ôl mathamategydd ac athro ymchwil gweithredol ym Mhrifysgol Coleg Lloegr.
Dywed Christina Pagel, y gallai’r ffordd mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn cyfrif data ddod yn broblem wrth i amser basio ond dyw hi ddim o’r gred bod “gwyriad mawr” wedi bod.
“Mae’n od bod Matt Hancock yn lansio ymchwiliad anferth nawr,” meddai.
“Mae gwefan Yr Adran Iechyd yn dweud yn glir sut mae pob gwlad yn cyfrif marwolaethau’n wahanol, felly ni ddylai fod yn syndod iddo.
“Dyna beth dw i’n ei weld yn od.”