Mae 14 o fusnesau newydd lleol wedi derbyn cymorth ariannol o £1,000 yn ogystal â chyngor busnes gan arbenigwyr yn sgil prosiect i annog pobl ifanc i fentro yng Ngwynedd a Môn.
Mae Llwyddo’n Lleol 2050 yn cynnig cyfle arbennig i bobol yn y ddwy sir i fod yn rhan o gynllun 10 wythnos, sy’n cynnwys arweiniad a mentora gan arbenigwyr lleol ar sut i sefydlu a chynnal busnes.
Yn ôl Elen Hughes, sy’n cydlynu’r prosiect ar ochr Menter Môn, mae’r cynllun yn rhoi “hyder” i bobol ifanc a busnesau newydd yn ogystal â’r cymorth ariannol.
“Rydym yn gobeithio gosod esiampl drwy’r 14 busnes bod modd i bobol ifanc gyflawni pethau yn lleol a bod yna gefnogaeth iddyn nhw yma,” meddai wrth golwg360.
“Dw i’n meddwl y bydd y gefnogaeth yma’n rhoi hyder iddyn nhw a bydd yr effaith seicolegol yr un mor werthfawr â’r buddsoddiad ariannol.”
Dywed Elen Hughes bod buddsoddi’n lleol mewn cyfnod economaidd ansicr yn sgil y coronafeirws yn beth pwysig.
“Mae yna heriau ar y gorwel, ond yn sicr mae buddsoddi mewn cyfnod ansicr fel hyn yn beth da, a byddwn yn cael ein gwobrwyo mewn blynyddoedd i ddod.
“Yn barod, mae rhai o’r busnesau wedi dechrau cael ymholiadau gan gwsmeriaid felly rydyn ni wedi cael dechrau cadarnhaol.”
Gwraidd
Un o’r busnesau sydd wedi cael ei ddewis i fod yn rhan o’r prosiect yw Gwraidd, sy’n creu dillad amgylcheddol-gyfeillgar gwreiddiol.
Dywed sylfaenydd y cwmni, Eurgain Lloyd, bod grant ariannol gan Lleol Cymru 2050 wedi “bod yn help mawr wrth ddelio â chostau sefydlu busnes newydd.”
Yn wreiddiol o Ynys Môn, graddiodd Eurgain Lloyd o Brifysgol Bangor yn ddiweddar, a dywed bod Lleol Cymru wedi ei galluogi i fod yn “fwy creadigol” yn ystod y cyfnod clo.
“Dwi wrth fy modd efo ffasiwn, felly nes i feddwl y baswn i’n gwneud dillad fy hun a’i gwerthu nhw,” meddai wrth golwg360.
“Mae Llwyddo’n Lleol 2050 wedi bod yn help mawr wrth imi fynd ati i brynu peiriant gwnïo a deunydd, faswn i heb allu dechrau’r busnes heb y grant.
“Un o brif egwyddorion fy musnes ydi’r amgylchedd, dwi ddim isio creu ffasiwn sy’n ddrwg i’r amgylchedd fel mae lot o gwmnïau eraill yn ei wneud.
Dywed bod yr arweiniad mae hi wedi ei dderbyn yn sgil y prosiect wedi bod yn werthfawr.
“Yn bendant, roedd yno gryn dipyn o bethau doeddwn i ddim yn ei wybod am ochr marchnata, brandio, ariannu ac ati ond dwi wedi cael lot o arweiniad gan arbenigwyr busnes ers bod yn rhan o Llwyddo’n Lleol.”
Smoothies Swig
Busnes arall sy’n rhan o brosiect Llwyddo’n Lleol 2050 ydi Smoothies Swig.
Dywed sylfaenydd y busnes, Tomos Huw Owen, ei fod yn bwriadu “gwneud smwddis a jiwsus ffres o adra, a danfon nhw o gwmpas ardal Caernarfon yn y Corsa, tra’n trio codi ymwybyddiaeth o’r cynnyrch newydd yn yr ardal.”
“Dw i’n meddwl ei fod o’n farchnad sydd heb gael ei gyffwrdd yng Ngwynedd, ac yn rhywbeth sydd am dyfu yn ystod y blynyddoedd nesaf,” eglura Tomos Huw Owen wrth golwg360.
“Mi fyddai’n buddsoddi mewn peiriant smoothie newydd a juicer i ddechrau, a gobeithio gallu prynu fan i werthu cynnyrch allan ohono maes o law.
“Dwi’n mwynhau bod yn rhan o’r prosiect, rydan ni’n cael cyfarfodydd bob wythnos efo gwestai gwahanol sy’n rhannu eu profiadau a rhoi cyngor i ni.
“A dwi’n meddwl bod pobol yn awyddus i gefnogi cynnyrch a busnesau lleol dyddiau ’ma felly mae o’n beth da bod ni’n cael cefnogaeth ac mi fydda i’n gweithio efo cyflenwyr lleol a chynnyrch lleol.”