Dywed Mark Drakeford mai cyngor Llywodraeth Cymru i weithwyr yw “aros adref a gweithio o’u cartrefi” os ydyn nhw’n gallu gwneud hynny.

Roedd neges Prif Weinidog Cymru heddiw yn bur wahanol i’r hyn mae Boris Johnson wedi bod yn ei ddweud. Mae Prif Weinidog Prydain yn awyddus i weld cyflogwyr annog pobl yn ôl i’w gwaith o’r mis nesaf ymlaen, os yw hynny’n ddiogel, ac yn dweud mai mater iddyn nhw yw penderfynu a ddylai eu gweithwyr ddod i’w swyddfeydd ai peidio.

Ar y llaw arall, dywed prif ymgynghorydd gwyddonol Llywodraeth Prydain, Syr Patrick Vallance, nad oes dim rheswm o gwbl dros newid y cyngor i bawb a all wneud hynny barhau i weithio o’u cartrefi.

Aeth Mark Drakeford ymhellach na dilyn y cyngor gwyddonol yn unig ar y mater, trwy ddweud ei fod yn awyddus i weld mwy o bobl yn gweithio o’u cartrefi yn barhaol yn ogystal.

“Dw i’n sicr nad ydw i eisiau gweld pobl yn dychwelyd i swyddfeydd yn y ffordd roedden ni’n arfer ei wneud cyn i’r coronafeirws ddigwydd,” meddai.

“Mae’r coronafeirws wedi bod yn brofiad erchyll, ond un o’r pethau cadarnhaol rydym wedi’i ddisgwyl yw pa mor bosibl yw hi i bobl weithio’n effeithiol iawn o’u cartrefi heb yr angen i niferoedd mawr o bobl fod yn teithio ar oriau brig y dydd i swyddfeydd.”