Mae Llywodraeth Cymru’n ofni na fydd y Trysorlys yn Llundain yn caniatáu taliadau bonws di-dreth i weithwyr gofal.

Ym mis Mai, fel arwydd o werthfawrogiad i’r sector, wnaeth y Llywodraeth gyhoeddi y byddai gweithwyr cartrefi gofal Cymru yn derbyn bonws £500.

Ond aros o hyd mae’r gweithwyr, a hynny am fod Llywodraeth Cymru yn trafod â’r Trysorlys i geisio sicrhau na fydd treth ar y taliadau yma.

Er iddo ddweud yr wythnos diwethaf bod y trafodaethau wedi bod yn “adeiladol”, mae Mark Drakeford, wedi awgrymu heddiw mai’r gwrthwyneb sy’n wir.

Ac yn siarad mewn cynhadledd i’r wasg – lle gyhoeddodd rhagor o lacio rheolau – mae wedi dweud y bydd ei Lywodraeth yn bwrw ati â’r taliad.

“Dw i’n credu ein bod ni’n cyrraedd diwedd ein trafodaethau â’r Trysorlys ynghylch treth ac yswiriant cenedlaethol a’r £500 r’yn ni’n dymuno talu staff gofal.

“Mae’n ymddangos, mae arna’ i ofn, bod y Trysorlys yn bwriadu cymryd yr arian yna oddi ar staff gofal yng Nghymru. Mae hynny’n anffodus ac mae modd osgoi hynny yn llwyr yn fy marn i.

“Byddwn yn dechrau gwneud y taliadau yna i staff gofal cymdeithasol yng Nghymru o fis nesa’ ymlaen.”

‘Nôl at normalrwydd Nadoligaidd?

Mewn cynhadledd i’r wasg heddiw dywedodd Boris Johnson, y Prif Weinidog yn San Steffan, gynlluniau i ddychwelyd at “normalrwydd sylweddol” erbyn Nadolig.

Ers wythnosau mae gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio y gallai pethau fod tipyn yn fwy llwm erbyn y gaeaf, ac ymatebodd Mark Drakeford i’r sylw brynhawn heddiw.

“Tra bod modd i ni wneud hynny, wnawn ni ddal ati i lacio mesurau’r cyfnod clo yng Nghymru a’n dychwelyd at rywbeth sydd yn debycach i sut oedd pethau cyn i’r feirws ein taro,” meddai.

“Allwn ni fod yn hyderus, yn nyfnderoedd y gaeaf, y byddwn o hyd mewn sefyllfa i wneud hynny?

“Wel, mae’n rhaid bod gennych safbwynt eitha’ optimistaidd o’r cyngor rydym wedi ei dderbyn i gredu bod hynny’n bosibiliad real.”