Mae Andrew RT Davies wedi cael ei benodi fel Gweinidog Iechyd Cysgodol newydd y Ceidwadwyr Cymreig.
Daw hyn wrth i’r blaid ad-drefnu eu cabinet wrth edrych ymlaen at etholiad y Senedd flwyddyn nesaf.
Mae’r cyn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cymryd lle Angela Burns fel y Gweinidog Iechyd Cysgodol ar ôl iddi gyhoeddi nad yw hi’n bwriadu sefyll yn ei sedd, Gorllewin Caerfyrddin a Sir Benfro. Fe fydd hi’n gweithredu o hyn tan yr etholiad fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Wydnwch ac Effeithlonrwydd Llywodraeth.
Mae Andrew RT Davies wedi gwrthwynebu mesurau coronafeirws Llywodraeth Cymru, gan eu galw’n “llanast.”
Dywed arweinwr y Ceidwadwyr Cymreig bod yr ad-drefnu yn ymateb i farwolaeth y cyn-Aelod o’r Senedd De Ddwyrain Cymru, Mohammad Asghar.
Mae Laura Anne Jones, wnaeth olynu Mohammad Asghar yn y Senedd, wedi cael ei phenodi fel y Gweinidog Cydraddoldeb, Plant a Phobol Ifanc cysgodol.
“Dwi’n gwneud newidiadau angenrheidiol i’r Cabinet Cysgodol, ac rwyf wedi penderfynu bod yn fwy radical yn y ffordd rydym yn ymgymryd â phethau,” meddai Paul Davies.
Ac wrth drafod penodi Angela Burns, dywed: “Mae gan Angela Burns brofiad o weithio’n gysgodol ar iechyd, addysg, a chyllid ymysg portffolios eraill, sydd, ynghyd â’i chyfoeth o brofiad busnes, yn ei gwneud hi’n addas i gymryd y rôl hon.
“Rwyf wedi gofyn iddi feddwl yn radical a chreadigol am y ffordd all llywodraeth yng Nghymru leihau dyblygu a gwastraff, ar rwyf yn hapus iawn bod gwleidydd sydd â’i phrofiad a’i statws hi wedi cytuno i dderbyn y rôl allweddol hon.
“Fyddwn ni ddim yn Lywodraeth sy’n gweithredu yn ôl yr arfer, na chwaith yn Gabinet Cysgodol sy’n gwneud pethau yn ôl yr arfer.”