Mae’r Gwasanaeth Iechyd am gael arian ychwanegol i baratoi ar gyfer ail don bosibl o’r pandemig coronafeirws.
Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Boris Johnson gyhoeddi £3 biliwn ar gyfer Lloegr y pnawn yma, ac y bydd yn cyhoeddi symiau cyfatebol ar gyfer Cymru a’r Alban yn ddiweddarach. Mae hefyd yn debygol o ymrwymo’r llywodraeth i darged newydd o 500,000 o brofion coronafeirws y dydd yn Lloegr erbyn mis Tachwedd.
Bwriad yr arian ychwanegol yw caniatáu ar gyfer capasiti ychwanegol mewn ysbytai a’u galluogi i barhau gyda thriniaethau rheolaidd.
Meddai llefarydd ar ran Downing Street:
“Diolch i waith caled ac aberth pobl Prydain, mae’r feirws bellach o dan reolaeth ac rydym wedi llacio cyfyngiadau mewn ffordd ofalus a graddol.
“Ond mae’r Prif Weinidog yn glir nad nawr yw’r adeg i orffwys ar ein rhwyfau, a bod yn rhaid inni sicrhau bod y Gwasanaeth Iechyd yn barod ar gyfer y gaeaf.”