Mae busnes newydd sydd wedi elwa ar raglen i hyrwyddo mentergarwch yng nghadarnleoedd y Gymraeg yn cael ei lansio heddiw (dydd Gwener 17 Gorffennaf).

Mae ‘Caramon’, sy’n cynnig gwasanaeth mecanyddol i garafannau ym Môn, Gwynedd Chonwy, wedi derbyn £8,000 o grant gan y prosiect arloesi ARFOR a gafodd ei sefydlu i hybu busnesau yn siroedd gorllewinol Cymru.

Mae’r rhaglen, sy’n seiliedig ar syniad a gafodd ei gynnig gan Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ar waith yn Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr.

Cronfa arbrofol yw’r rhaglen, sy’n bwriadu creu mwy a gwell swyddi yng nghadarnleoedd y Gymraeg a chefnogi twf y Gymraeg.

“Dwi’n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth gan ARFOR oherwydd mae wedi fy ngalluogi i dderbyn hyfforddiant yn ogystal â phrynu cerbyd ar gyfer y gwasanaeth mecanyddol symudol rwyf yn ei gynnig i berchnogion carafanau,” meddai perchennog Caramon, Eifion Jones.

Yn y lansiad heddiw, fe fydd gwobr i un person gael aros mewn maes carafanau lleol am ddwy noson, yn ogystal ag ennill cynnyrch lleol.

Bydd y cwmni Pot Jam o Borthaethwy yn gweini te, tra bydd y bragdy lleol, Bragdy Cybi’n darparu cwrw i enillwyr y wobr.