Dylid bod yn rhaid talu ffi o £10,000 er mwyn newid enwau tai yng Ngwynedd, yn ôl grŵp o gynghorwyr WNP (Welsh National Party).

Mae’r mater o ddisodli enwau Cymraeg am enwau Saesneg wedi bod yn bwnc llosg dros y misoedd diwethaf, ac un o’r rheiny sydd wedi arwain y gad yw’r darlledwr BBC, Huw Edwards.

Yng nghanol y cynnwrf yma mae Peter Read, Dylan Bullard (cynghorwyr Sir Gwynedd) a  Jason Humphries (o gyngor tref Porthmadog) wedi galw am weithredu.

“Mae ein cynnig yn syml iawn mewn gwirionedd,” meddai’r Cynghorydd Peter Read. “Byddwn yn cynyddu’r ffi i ailenwi eiddo yng Ngwynedd i £10,000.

“Bydd perchnogion tai yn dal i allu ddileu enw Cymraeg eu heiddo ond bydd yn rhaid iddynt dalu ffi [hynod uchel] i wneud hynny.”

Dylai unrhyw arian a godir trwy’r ffi “i ddileu ein treftadaeth” fynd at gyrsiau trochi’r Gymraeg, yn ôl y cynghorydd.

Deiseb

Bythefnos yn ôl, cafodd deiseb ei lansio yn galw am warchod enwau tai Cymraeg.

Llwyddodd i ddenu dros 5,000 o lofnodion o fewn 24 awr, a bellach mae cael ei lofnodi gan dros 17,000 o bobol.

Bydd Pwyllgor Deisebau’r Senedd yn ystyried y ddeiseb ar gyfer dadl.

Cefndir

Mae’r Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, Dai Lloyd, eisoes wedi rhoi cynnig ar gyflwyno deddf i warchod enwau Cymraeg.

Rai blynyddoedd yn ôl ceisiodd gyflwyno Mesur i ddiogelu enwau lleoedd – o bob iaith – yng Nghymru, ond yn 2017 cafodd y cynnig ei wrthod.