Mae cynlluniau i adeiladu ffatri newydd yn ne Cymru gam yn nes, yn ôl adroddiadau.

Mae Britishvolt wedi bod yn ystyried 42 o safleoedd ledled y Deyrnas Unedig, a fis diwetha’ datgelon nhw mai safle yn Sain Tathan, Bro Morgannwg, yw’r “ffefryn”.

Bellach mae’r BBC yn adrodd eu bod wedi taro “memorandwm o ddealltwriaeth” gyda Llywodraeth Cymru, a bod dêl gam yn agosach.

Er nad yw’r cwmni wedi ei rhwymo yn gyfreithiol â’r safle, mae’n debyg mai dyma yw’r unig safle mae’n ei hystyried bellach.

Mae’r cwmni yn dweud y byddai’r ffatri’n creu 3,500 swydd ac yn arwain at werth £1.2bn o fuddsoddiad.

Bro Tathan

Byddai’r ffatri yn creu batris ar gyfer ceir trydan, yn cael ei osod ar safle Bro Tathan, ac mi fyddai’n hwb mawr i ddiwydiant geir Cymru.

Y Weinyddiaeth Amddiffyn oedd yn arfer berchen Bro Tathan, ond bellach Llywodraeth Cymru sydd biau ef.

Mae Bro Tathan eisoes yn gartref i ffatri ceir trydan Aston Martin. Fe wnaeth y ffatri honno gynhyrchu ei cherbyd cyntaf yr wythnos diwethaf.