Mae’r cyfuniad o effeithiau Brexit a covid-19 yn siŵr o roi clec i iechyd meddwl y cyhoedd y gaeaf hwn, a rhaid i’r Gwasanaeth Iechyd baratoi at hynny.
Dyna mae’r elusen, y Ganolfan Iechyd Meddwl, yn ei gynghori yn ei adroddiad diweddaraf, ‘Covid-19 ac Iechyd Meddwl y Genedl’.
Mae’r ganolfan hefyd yn tybio y bydd y ffliw tymhorol a diffyg cynllun ffyrlo yn peri trafferth, ac mae’n rhagweld y bydd yn effeithio ar economi’r Deyrnas Unedig.
Mae ei Brif Weithredwr, Sarah Hughes, yn dweud bod eleni wedi rhoi “ergyd siarp” i iechyd meddwl sawl un, ac mae’n galw am weithredu.
“Mae yna beryg y cawn ni don fawr o anhwylder seicolegol wrth i fwyfwy o fywydau gael eu heffeithio gan sgil effeithiau’r pandemig,” meddai.
“Rhaid i ni gynllunio yn awr er mwyn rhwystro anhwylder iechyd meddwl lle bo hynny’n bosib, ac estyn llaw i bobol cyn iddyn nhw gyrraedd cyflwr argyfyngus.”
Effaith covid-19 ar y meddwl
Mae’r adroddiad yn nodi bod plant a phobol ifanc ymhlith y rheiny sy’n wynebu’r risg uchaf o anhwylder meddyliol.
Yn siarad dydd Iau, dywedodd Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, bod “yn rhaid paratoi at y gaeaf” am fod yna bosibiliad o ail frig covid-19.