“Cyfrifoldeb” Llywodraeth San Steffan yw sicrhau bod dim treth ar daliad bonws i weithwyr cartrefi gofal Cymru.

Dyna mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi ei ddweud wrth iddo wynebu pwysau cynyddol i fwrw ati â’r cynllun.

Ym mis Mai, fel arwydd o werthfawrogiad i’r sector, wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi y byddai gweithwyr cartrefi gofal Cymru yn derbyn bonws £500.

Ond aros o hyd mae’r gweithwyr, a hynny am fod Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau na fydd treth ar y taliadau yma.

Yn siambr y Senedd ddoe awgrymodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, y dylai’r Llywodraeth fwrw ati gyda’r cynllun, ac ysgwyddo unrhyw faich ariannol pe byddai’n rhaid gwneud hynny.

Ymatebodd Mark Drakeford hynny, trwy ddweud bod “trafodaethau adeiladol” yn dal i fynd rhagddynt â’r Trysorlys, ond gan fynnu mai cyfrifoldeb Llywodraeth San Steffan yw’r mater.

Cyfrifoldebau

“Dw i ddim wedi cyrraedd pwynt lle dw i’n credu gall y sgyrsiau yna gael eu dirwyn i ben,” meddai, “a lle ddylwn adael i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wfftio’i chyfrifoldebau, ac i wario rhagor o arian Llywodraeth Cymru ar gyfrifoldebau y dylen nhw ddelio â nhw eu hunain.

“Dydyn ni ddim yn gofyn am ragor o arian […] yn syml, r’yn ni’n gofyn iddyn nhw beidio â chymryd arian sydd yn eiddo i weithwyr yng Nghymru.”

Mae golwg360 wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru i fynnu’r diweddaraf ynghylch y sefyllfa.