Bydd holl weithwyr cartrefi gofal y wlad yn elwa o daliad £500 gan Lywodraeth Cymru.
Daeth y cyhoeddiad gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn ystod cynhadledd i’r wasg brynhawn heddiw, ac mae’r cam yn dro pedol braidd.
Ar Fai 1, cyhoeddodd y Llywodraeth y byddan nhw’n rhoi taliad £500 i weithwyr gofal cymdeithasol yn arwydd o werthfawrogiad o’u gwaith – cam sy’n costio £32.2m.
A’n fuan wedi hynny, cawson nhw eu beirniadu am beidio ag ymestyn y taliad i bob gweithiwr mewn cartrefi gofal. Bellach mae’n ymddangos bod y Llywodraeth wedi gwrando ar y feirniadaeth.
Y cam “cywir”
Bydd staff ceginau, glanhawyr, staff asiantaeth, a staff nyrsio cartrefi gofal, oll yn derbyn y taliad; ac mae’r trefniadau ar y gweill, bellach, i ddechrau gwneud y taliadau.
“Mae’n beth cywir rhoi’r taliad hwn i’r rheini sy’n helpu i ofalu am drigolion cartrefi gofal,” meddai Mark Drakeford.
“Yn ogystal â’r gwaith pwysig y mae staff gofal cymdeithasol yn ei wneud yng nghartrefi pobl ac mewn cartrefi gofal, rydyn ni’n gwybod bod staff domestig a staff ceginau yn mynd y tu hwnt i’w gofynion arferol, gan ddarparu gofal a chyfeillgarwch i’r trigolion yn ystod y pandemig hwn.”
Y cynllun gwreiddiol
Cafodd y taliad gwreiddiol ei gyflwyno yn sgil cryn feirniadaeth am driniaeth gweithwyr gofal yn ystod yr argyfwng coronafeirws.
Roedd rhai yn dadlau – gyda gwleidyddion Plaid Cymru yn eu plith – bod gweithwyr gofal heb dderbyn yr un gydnabyddiaeth am eu gwaith â gweithwyr iechyd.
Mae’n bosib y bydd yn rhaid i weithwyr dalu treth a chyfraniadau yswiriant ar y bonws, ond mae Mark Drakeford yn dweud ei fod yn ceisio gweithio â Llywodraeth San Steffan i osgoi hyn.