Mae fideo feiral cawslyd Mark Drakeford wedi rhoi hwb i’r diwydiant caws yng Nghymru, yn ôl busnes o dde Cymru.

Dros y penwythnos bu’r Prif Weinidog yn ateb cwestiynau’r cyhoedd yn fyw ar-lein, ac yn ystod y sesiwn mi ddatgelodd ei fod yn hoff iawn o gaws.

Aeth clip o’i sylwadau bywiog yn feiral ar ddechrau’r wythnos, ac mi esgorodd hynny ar ddeunydd difyr ac ambell drafodaeth danllyd.

Mae Tom Pinder, perchennog The Welsh Cheese Company, yn dweud bod y caws-glip yn “ffantastig”, a’i fod wedi calonogi ei ddiwydiant yn ystod cyfnod canodd.

“Wnaeth e daro tant,” meddai. “Roedd yn frwdfrydig go iawn am gaws Caerffili.

“A mwy na thebyg roedd yn braf iddo gael hoe fach o feddwl am y sefyllfa ofnadwy mae’n trio ein llywio ni drwyddi ar hyn o bryd.

“Felly roedd hynna’n grêt, a wnaeth cwpwl o bobol bigo fyny ar hynna… Mae’r pethau yma i gyd yn helpu.”

Cwmni “ffodus”

Mae’n dweud bod lot o bobol yn ei ddiwydiant yn “cael trafferth ymdopi”, ond mae’n cydnabod ei fod yntau wedi bod yn eitha’ lwcus.

Ffynnon Taf yw pencadlys ei gwmni, ond mae’n gwerthu caws rhyw 15 o gynhyrchwyr Cymreig ar-lein; ac am ei fod yn masnachu dros y we mae ergyd yr argyfwng wedi bod yn llai, meddai.

“Rydym ni’n ffodus,” meddai. “Mae pobol yn prynu mwy ar lein, beth bynnag. Felly rydym wedi profi cwpwl o wythnosau cymharol brysur.

“Digwydd bod, mae hynny wedi disgyn dros y diwrnodau diwethaf wrth i gyfyngiadau gael eu llacio – ac wrth i bobol gael cyfleoedd eraill i brynu.”

Hamper

Dyw’r busnes heb brofi cynnydd mewn archebion yn sgil fideo’r Prif Weinidog, ond fe wnaeth y Welsh Cheese Company anfon hamper o gaws Cymreig at Mark Drakeford wedi i’r fideo fynd yn feiral, ac mae yntau bellach wedi ei roddi i bobol mewn angen.

Mae’n “grêt gweld y caws yn mynd at achos da”, meddai perchennog y busnes yn ymateb i hynny.

“Doeddwn ni ddim yn trio awgrymu ei fod yn llwglyd,” meddai.

“Roeddwn yn ceisio amlygu’r ffaith bod yna gaws gwych allan yna, a’i fod yn grêt – yn ystod y cyfnod yma – bod pobol yn cefnogi ac yn siarad am y diwydiant gaws yng Nghymru.”

Mae’r cwmni hefyd wedi rhoddi caws i weithwyr allweddol dros y misoedd diwethaf, yn ôl y perchennog.