Mae modd teithio’r ddwy ffordd drwy ganol dinas Abertawe eto o heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 26).

Mae Cyngor y Ddinas yn cynghori gyrwyr, seiclwyr a cherddwyr i gynllunio’n ofalus cyn mentro i ganol y ddinas ar ôl iddyn nhw fynd ati i ail-gyflwyno’r hen drefn ar hyd y Kingsway, y brif ffordd trwy ganol y ddinas.

Mae map newydd wedi cael ei gyhoeddi er mwyn helpu pobol i ddod i arfer â’r drefn newydd.

Beth yw’r drefn newydd?

Aeth y gwaith o gyflwyno’r drefn newydd rhagddo rhwng 6 o’r gloch neithiwr (nos Sadwrn, Gorffennaf 25) a 9 o’r gloch fore heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 26).

Bydd yn effeithio ar y strydoedd canynol: Ffordd y Brenin (Kingsway), Stryd Orchard, Stryd Christina, Stryd Mansel, Stryd De La Beche, Grove Place, Heol Alexandra a Ffordd Belle Vue.

Bydd traffig yn dechrau symud i’r cyfeiriad arall ar Stryd Craddock, wrth i gyffordd rhwng Stryd Pleasant a Stryd Orchard gau.

Bydd swyddogion yn monitro’r drefn newydd yn ystod y cyfnod cychwynnol.

Bwriad y gwaith yw lleihau faint o draffig sy’n teithio ar Ffordd y Brenin (Kingsway), ac mae’n rhan o gynllun adfywio’r ddinas sy’n werth miliynau o bunnoedd.

‘Diogel ac effeithlon’

“Rydym oll ar beilot awtomatig i ryw raddau wrth ddefnyddio strydoedd cyfarwydd,” meddai Rob Stewart, arweinydd y Cyngor Sir.

“Yn nyddiau cynnar y gosodiad ffyrdd newydd gwych hwn, gofynnaf fod pawb yn cymryd peth amser i ddeall sut fydd traffig yn llifo o ddydd Sul yma.

“Rydym yn rhoi cyhoeddusrwydd eang i’r newid fel y gall ddigwydd yn ddiogel ac effeithlon – gall trigolion gadw llygad ar gyfer ein hashnod #KingswayTwoWay ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Mae ein map ar gyfer gyrru trwy ganol dinas Abertawe o Orffennaf 26 ar gael i’w lawrlwytho, rydym wedi ei e-bostio at fusnesau a’i bostio ar hysbysfyrddau o amgylch Ffordd y Brenin (Kingsway).

“Bydd y drefn newydd yn dod â manteision gwych gan gynnwys llwybrau teithio mwy uniongyrchol, mwy o ofod cyhoeddus a mwy o lefydd i ymlacio.

“Er mwyn helpu i’w gyflwyno, mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn dangos ystyriaeth a pharch i bobol eraill sy’n ei defnyddio am y troeon cyntaf.

“Diolch i’r cyhoedd am y ddealltwriaeth maen nhw wedi’i dangos yn ystod y broses wella hon.”